Cysylltwch â ni Heddiw

Adeiladu, Ffenestri, Drysau ac Ystafelloedd Gwydr
01758 730 724
windows@rwilliams.ltd | construction@rwilliams.ltd

Ni yw'r dewis cyntaf i gwsmeriaid Pen Llŷn, Eifionydd a Meirionydd ar gyfer ffenestri a drysau.

Mae ein henw da am ansawdd, gwasanaeth a phris yn golygu bod llawer o'n gwaith yn dod o argymhellion personol. Mae perchnogion tai yn rhoi mwy o ystyriaeth i'w dewisiadau ffenestri a drysau, gan fuddsoddi mewn gwella nodweddion fel arddull, caledwedd a lliw.

Rydym yn darparu ar gyfer eich holl ofynion PVCu neu alwminiwm, gan gynnig fframiau PVCu Bevelled a Sculptured. Mae’n bosib cael yr edrychiad pren gyda’r holl fanteision o PVCu. Mae’r opsiynau alwminiwm yn gryf, yn ysgafn ac ar gael mewn unrhyw liw RAL. Mae ein ffenestri sash llithro yn debyg iawn i edrychiad y ffenestr sash pren gwreiddiol, gan gadw holl gymeriad yr eiddo.

Mae'r holl fframiau yn cael eu paratoi gyda dur i’w hatgyfnerthu a chloeon aml-bwyntiau yn darparu diogelwch. Llai o sŵn, bron dim cynnal a chadw, lleihau biliau ynni a gwella diogelwch - heb anghofio'r effaith weledol.

Mae nifer y trefniadau a'r cyfuniadau o fframiau yn ddiddiwedd gydag amrywiaeth o arddulliau sy'n addas i bob cartref. Rydym yn cynnig ffenestri a drysau gyda thechnoleg gwydr sy'n inswleiddio eich cartref ac yn lleihau biliau gwresogi.

Ydych chi eisiau creu agoriad gwydr mawr i orlifo'ch cartref gyda golau naturiol? Mae'r dewis o wydr yn effeithio nid yn unig ar ymddangosiad eich cartref, ond hefyd moethusrwydd. Gall haenau arwyneb modern sydd bron yn anweledig reoli faint o olau sy’n dod i mewn a faint o wres sy’n cael ei golli. Mae unedau gwydr dwbl a thriphlyg yn cael eu llenwi â nwyon mewnol i inswleiddio'ch cartref.

Rydym yn cynnig fframiau Rehau a Profile 22. Rydym yn osodwyr cymeradwy FENSA ac yn gwarantu pob ffrâm ffenestr a drws am 10 mlynedd, gwydr am 5 a gwaith metel a haearn am 2 flynedd.

Cysylltwch â ni am ddyfynbris heb unrhyw bwysau ar y ffôn 01758 730 7244 neu drwy e-bostio windows@rwilliams.ltd

Neu cliciwch yma i gwblhau’r ffurflen ymholi ar-lein.

windows and doors