Mae R. Williams & Co, yn fwy na busnes cyffredin – rydym yn dîm a theulu clos sy'n ymroddedig i wasanaethu ein cymuned ym Mhwllheli a thu hwnt yng ngweddill Gwynedd a gogledd Cymru. Gyda hanes cyfoethog sy’n dyddio'n ôl i 1958 pan ddechreuon ni fel Cwmni Adeiladu, rydyn ni wrth ein bodd yn yn helpu teuluoedd i drawsnewid eu heiddo yn gartrefi cysurus.
Dros y blynyddoedd, mae ein busnes teuluol wedi ffynnu ac esblygu, ac rydym yn falch o fod wedi datblygu gwasanaeth arbenigol sy'n canolbwyntio ar gyflenwi a gosod ffenestri, drysau ac ystafelloedd gwydr o'r safon uchaf. P'un a ydych chi'n chwilio am atebion uPVC, alwminiwm neu GRP, mae gennym yr arbenigedd a'r tîm cyfeillgar i ddod â'ch gweledigaeth yn fyw.